Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 18 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Bernard Galton, Director General, PPCS Crispin O'Connell, Deputy Director, Places and Services Division Dame Gillian Morgan, Permanent Secretary, Welsh Government Paul Dimblebee, Group Director - Performance Audit, WAO |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Webber (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Eitemau 3 a 4.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2012
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2012.
4. Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011'
4.1 Cafodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 – Y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru’.
5. Darparu gwasanaethau a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin: Tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol
5.1 Croesawodd y Pwyllgor y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol; Bernard Galton, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol; a Crispin O’Connell, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Lleoedd a Gwasanaethau.
5.2 Yn ogystal, croesawodd y Pwyllgor y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.
5.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Manylion ynghylch y 298 o gyflenwyr gwahanol a ddefnyddiwyd y tu allan i gontract Merlin, gan gynnwys manylion ynghylch nifer y cyflenwyr hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
· Rhagor o wybodaeth am arbedion a wnaed drwy osgoi cosbau ariannol, gan gynnwys gwybodaeth am y modd y dangoswyd gwerth am arian ac am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag enw da.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau a chymeradwyodd gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.